Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 16 Hydref 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(156)v4

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (10 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI3>

<AI4>

Cwestiwn Brys

 

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y swyddi posibl a gaiff eu colli yn First Milk ym Maelor?

</AI4>

<AI5>

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

</AI5>

<AI6>

4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi aelodau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud) 

 

NDM5332 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 4(1) a 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:

 

1. Yn penodi Isobel Garner, Peter Price, David Corner, Christine Hayes a Steven Burnett yn aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru; a

 

2. Yn penodi Isobel Garner yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Sylwer: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar benodi aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

</AI6>

<AI7>

5 Cynnig i gytuno ar daliadau aelodau a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud) 

 

NDM5333 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Pharagraffau 7(1) a 7(4) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013:

 

1. Yn penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol o £25,000 y flwyddyn i Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; a

 

2. Yn penderfynu ar gydnabyddiaeth ariannol o £12,500 y flwyddyn i aelodau anweithredol eraill Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Sylwer: Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar benodi aelodau anweithredol i Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

</AI7>

<AI8>

6 Cynnig i ddiwygio RhS18 mewn cysylltiad â Chyfrifon Cyhoeddus ac arolygiaeth Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud) 

 

NDM5329 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 18 – Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013; a

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 18 ac 20:

 

(a) fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar unwaith; a

 

(b) fel y nodir yn Atodiad D i adroddiad y Pwyllgor Busnes, i ddod i rym ar 1 Ebrill 2014.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Busnes

</AI8>

<AI9>

7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid (5 munud) 

 

NDM5334 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyllid fel ei fod, yn ogystal â’i swyddogaethau presennol, yn cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10 ac 18.11.

</AI9>

<AI10>

8 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) 

 

NNDM5325

 

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod risg uchel llusernau awyr i ddiogelwch y cyhoedd, i adeiladau a strwythurau, ac i les anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i rinweddau cyfyngu ar ryddhau llusernau awyr yng Nghymru.

</AI10>

<AI11>

9 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr Ymchwiliad i weithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a'i gyfeiriad yn y dyfodol (60 munud) 

 

NDM5328 David Rees (Aberafan)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2013.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI11>

<AI12>

10 Dadl i geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Llythrennedd Ariannol (Bethan Jenkins) (60 munud) 

 

NDM5299 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

 

Yn cytuno y caiff Bethan Jenkins gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 11 Gorffennaf 2013 o dan Reol Sefydlog 26.90.

 

Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot drwy fynd i:

 

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill-055.htm

 

Dogfennau ategol:

Crynodeb o ymatebion a chasglwyd gan y tîm Allgymorth

</AI12>

<AI13>

Cyfnod Pleidleisio

</AI13>

<AI14>

11 Dadl Fer (30 munud) 

 

NDM5330 Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Awtistiaeth: Yr angen am ddiagnosis amserol yng Nghymru

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 22 Hydref 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>